Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 (Senedd)
Dyddiad: Dydd Llun, 4 Rhagfyr 2023
Amser:
12.04 -
16.01
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13576
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Rajvi Glasbrook, Llywodraeth Cymru Amelia John, Llywodraeth Cymru Riaz Hassan, Llywodraeth Cymru Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Claire Thomas (Ymchwil) Gareth Thomas (Ymchwil) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant
2 Ymchwiliad i weithrediad Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan y canlynol:
Jane Hutt, AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip
Amelia John, Cyfarwyddwr Dros Dro, Cymunedau a Threchu Tlodi
Riaz Hassan, Pennaeth Tîm Cyflawni y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
Rajvi Glasbrook Griffiths, Uwch-reolwr Prosiect y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
3 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau’r papurau.
3.1 Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Phlismona yng Nghymru ynghylch rhaglenni cyflawnwyr
3.2 Gohebiaeth at Gadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch yr adroddiad, Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2023: A yw Cymru'n Decach?
3.3 Gohebiaeth at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gan y Prif Weinidog ynghylch 40fed Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o weddill cyfarfod heddiw
Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.
5 Ymchwiliad i weithrediad y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth.
6 Blaenraglen waith: papur cwmpasu
Cytunodd yr Aelodau ar y flaenraglen waith.
7 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: trafod yr adroddiad drafft
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft ac awgrymwyd rhai mân ddiwygiadau. Penderfynodd yr Aelodau drafod yr adroddiad ymhellach, ar ôl i’r diwygiadau gael eu gwneud, y tu allan i gyfarfod y Pwyllgor.